BBC logo

Uwch Newyddiadurwr Gohebydd

BBC
Full-time
On-site
Cardiff, United Kingdom
£42,200 - £57,000 GBP yearly

MANYLION Y SWYDD

BAND Y SWYDD: D
MATH O GONTRACT: Parhaol, Llawn amser 
ADRAN: Newyddion BBC
LLEOLIAD: Unrhyw swyddfa'r BBC yng Nghymru
YSTOD CYFLOG: £42,200 - £57,000 yn ddibynnol ar sgiliau, gwybodaeth a phrofiad perthnasol. Mae’r amrediad cyflog disgwyliedig ar gyfer y swydd hon yn adlewyrchu meincnodi mewnol a gwybodaeth am y farchnad allanol.

Rydym ni’n fodlon trafod gweithio’n hyblyg. Os hoffech chi wneud hynny, gofynnir yn garedig i chi nodi eich dymuniadau yn y cais – ond does dim rhaid i chi wneud hynny nawr. Bydd gweithio’n hyblyg yn rhan o’r drafodaeth pan gynigir y swydd. 

PWRPAS Y SWYDD

Bydd y gohebydd yn rhan o dîm ffocws Newyddion S4C. Bydd yn ofynnol i’r person sydd yn cael y swydd ddarparu straeon digidol yn gyntaf ac i raglen linol Newyddion S4C. 
Bydd y gohebydd yn cynnig straeon gwreiddiol a rhai sydd yn gwneud impact ac yn arwain rhaglen Newyddion. MI fydd y gohebydd hefyd yn gyfarwydd a defnyddio triniaethau gwahanol er mwyn adrodd straeon mewn ffyrdd creadigol a dealladwy i’r gynulleidfa.
Bydd yn gweithio’n agos gyda’r golygydd, y cynhyrchwyr a chynllunwyr ar straeon gwreiddiol a rhai syn gwneud impact ar draws y stafell Newyddion ac yn gosod yr agenda.
Bydd disgwyl i’r gohebydd wneud cyfraniadau byw o leoliadau gan sicrhau ein bod yn cynrychioli cymunedau amrywiol gan arddangos sgiliau holi craff. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio’n hyblyg gan ymateb i straeon sy’n torri a gweithio ar straeon sydd wedi eu cynllunio.

 

Bydd deilydd y swydd yn ohebydd wrth reddf ac yn agored i gynnig syniadau arloesol er mwyn sicrhau fod gwasanaeth Newyddion S4C yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn llwyr ymwybodol a chyda dealltwriaeth fanwl o bolisïau golygyddol a chyfreithiol.  Bydd hefyd yn arddangos dealltwriaeth o dechnoleg newydd ac yn arddel uchelgais i ddatblygu delwedd y rhaglen deledu yn weledol.  


PAM YMUNO Â’R TÎM

Mae gan dîm Newyddion S4C enw da am dorri straeon – ac mae 'na gyfleoedd rheolaidd i ohebu ar straeon mawr boed yn rhai Cymreig neu tramor – gan gynnwys teithio i ddigwyddiadau mawr tramor.
Mae Newyddion S4C yn dîm sydd yn gweithio yn agos gyda’i gilydd – a cyn dim cynhwysol lle mae parch yn bwysig

 

EICH PRIF GYFRIFOLDEBAU A’CH DYLANWAD:

  • Gohebu a dod o hyd i straeon gwreiddiol
  • Datblygu straeon ar gyfer platfformau digidol yn gyntaf
  • Cydweithio gyda chynhyrchwyr i sicrhau rhaglenni o’r safon uchaf
  • Cydweithio gydag aelodau eraill y tîm ffocws i sicrhau uned sy’n arwain ar straeon gwreiddiol ac ymchwiliadol
  • Sicrhau cydweithio effeithiol gyda thimau Straeon, Newyddiaduraeth Weledol a Chynulleidfaoedd a thimau Arbenigol a Gwleidyddol yr ystafell newyddion

 

EICH SGILIAU A’CH PROFIAD
MEINI PRAWF HANFODOL:

  • Profiad o ohebu ar straeon gwreiddiol a dealltwriaeth fanwl o ofynion Newyddion S4C
  • Y gallu i ddarganfod straeon gwreiddiol a’u cynhyrchu i safon uchel iawn gan arddangos crebwyll creadigol a gweledol
  • Y gallu i weithio yn annibynnol ond hefyd fel rhan o’r tîm ffocws i sicrhau fod briff Newyddion S4C yn cael ei gyflawni’n effeithiol
  • Dealltwriaeth o blatfformau cymdeithasol a sut i gynhyrchu ac addasu straeon gan arddangos dealltwriaeth o anghenion y gynulleidfa
  • Gwybodaeth drylwyr a sicr am bolisïau golygyddol ac ymwybyddiaeth o’r ystyriaethau cyfreithiol

 

DYMUNOL OND DDIM YN OFYNNOL:

  • Yn brofiadol o ohebu dramor ar ddigwyddiadau mawr. Wedi cael hyfforddiant HEFAT
  • Gallu ffilmio a golygu i safon uchel
  • Profiad o gyflwyno ar leoliad

 

Os oes gennych chi rai o’r sgiliau a’r profiadau hyn, ynghyd â chryfderau trosglwyddadwy, byddem yn falch o glywed gennych chi ac rydym yn eich annog i wneud cais.